Newyddion trist iawn a cholled aruthrol. Mae cyfraniad Dewi i’n diwylliant yn enfawr mewn sawl maes ac mae’n cydymdeimladau ni gyda Rhiannon.
Roedd Dewi yn gefnogwr brwd o Gynghrair Cyfansoddwyr a Chyhoeddwyr Cerddoriaeth Cymru ac Asiantaeth Eos ac roedd o’n angerddol dros warchod cerddoriaeth Gymraeg ar y cyfryngau. Roedd hefyd yn gefnogwr cryf o Yes Cymru ac annibyniaeth, ac yn cyfansoddi a recordio caneuon i’r ymgyrch.
Er yn 76 oed, doedd oedran ddim yn rywbeth oedd yn perthyn i Dewi – roedd o’n bob oed ac yn ddi-oed, ac yn hapus yn nghwmni plant, bobl ifanc ac oedolion.
Roedd o’n dynnwr coes reddfol, a byth yn colli cyfle, ac yn wir roedd pawb bron oedd yn dod ar ei draws o yn disgwyl hynny hefyd, boed ar y stryd neu ar lwyfan.
Roedd Dewi yn amryddawn iawn hefyd – yn fardd, yn actor, yn gyfansoddwr, yn ddigrifwr, yn gerddor a hefyd yn leisydd ar nifer o gartwnau Cymraeg i blant.
Mi fydd yna golled mawr ar ei ôl ond mae nifer fawr o’i gyfraniadau ar gof a chadw – diolch byth – ac felly ni aiff ei gyfraniad i’n diwylliant fyth yn anghof.
Bwrdd Eos
Comments