top of page
gweinyddyddeos

Teyrnged i Kevin Davies

Gyda sioc anferth a thristwch mawr bu i ni glywed am farwolaeth Kevin Davies yn ddiweddar, ac anfonwn ein cydymdeimladau llwyr at Catrin ei weddw, ei blant Gerallt ac Einir, a gweddill y teulu.


Roedd Kevin yn aelod ffyddlon o Fwrdd Eos ac yn gyfarwyddwr ar y cwmni ers y cychwyn un ym mis Tachwedd 2012. Cofiwn ei gyfraniadau gwerthfawr a’i sylwadau craff yn ein cyfarfodydd cynnar a arweiniodd at sefydlu’r cwmni, a’i gyngor doeth wrth i ni geisio darganfod y llwybr drwy’r gors gyfreithiol a’r trafodaethau cymhleth i gyrraedd pen y daith.


Cynrychioli Cyhoeddiadau Mwldan oedd Kevin ar Fwrdd Eos, sef braich cyhoeddi label Fflach, ac roedd Kevin yn rhan o gwmni Fflach o’r cychwyn. Roedd yn briod a Catrin, sef chwaer Ann oedd yn briod a’r diweddar Richard Jones, Ail Symudiad, ac roedd Kevin wedi cymryd yr awenau gyda chwmni Fflach yn dilyn colli dau sylfaenydd y cwmni, Richard a’i frawd, Wyn yn ddisymwth y llynedd.


Roedd Kevin yn aelod gwerthfawr o’i gymuned hefyd. Bu’n weithgar gydag Aelwyd Crymych fel arweinydd y Gwasanaeth Ieuenctid am dros ddegawd gan gyfrannu at yr uned addysg gymunedol. Cymerodd rhan flaenllaw ym maes Cymraeg i Oedolion hefyd ac roedd yn gyfrifol am ddosbarthiadau ar draws Sir Benfro ers sefydlu'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol.

Yn gefnogwr pêl-droed ac aelod brwd o’r Wal Goch, roedd canu a cherddoriaeth hefyd yn agos at ei galon, a bu’n aelod brwd o gorau lleol gan gynnwys Côr Crymych a’r Cylch, ond roedd hefyd yn weithgar iawn wrth warchod buddiannau cerddorion a chyfansoddwyr.

Byddwn yn colli ei gyfraniadau hirben a’i ddadansoddiadau treiddgar wrth graffu ar faterion Eos yn ein cyfarfodydd, ond diolchwn am y cyfle i’w adnabod, am ei bersonoliaeth radlon, ac am ei gyfraniad oesol i’n diwylliant.


Bydd colled fawr ar ei ôl.


Bwrdd Eos


41 views0 comments

Recent Posts

See All

Comments


bottom of page